Cefndir

Cefndir Swci Delic

Artist o Gaerfyrddin yw Swci Delic. Yn 26 oed fe ymddeolodd o’r byd cerddoriaeth ar ôl canfod eu bod yn dioddef o gancr yr ymennydd. Wedi deffro o lawdriniaeth hir, fe ddechreuodd Swci beintio. Nid oedd ganddi unrhyw brofiad o gelf nac unrhyw fath o hyfforddiant.

Dywed:

“Wrth i mi geisio ffeindio fy ffordd o gwmpas y ffordd newydd yma o fyw, roedd y gwacter roeddwn yn ei deimlo heb y gerddoriaeth yn cael ei lenwi gyda’r angen enfawr i beintio. Mae f’ymennydd yn peri i fi greu patrymau mawr a beiddgar gan ddefnyddio cymaint o liw a phosib. Fe wnaeth rhywbeth glicio ynof fi, ac fe dyfodd y peintio yn obsesiwn.

Rwy’n breuddwydio am baentio ac rwy’n gwneud celf am ei fod yn orfodol – nid wyf yn gallu ei reoli ”

Yr hyn a ddaeth i fod oedd cynfasau mawr, lliwgar sydd yn dod â dŵr i’r dannedd. Celf “bop” gyda lliwiau’n gwrthdaro. Mae’r lliwiau seicedelig yn rhoi cipolwg ar gyflwr ymennydd sy’n brwydro cancr.

Ers ei llawdriniaeth mae’n credu bod lliw yn chwarae rhan llawer pwysicach nac yr ydym yn sylweddoli yn ein bywydau. Mae pob lliw yn ei hysbrydoli. Mae’n hoffi celf “mwy-na-bywyd” ac nid yw’n credu fod yna ddigon ohono yn y byd.

Mae’n gobeithio y bydd edrych ar ei gwaith yn fodd o dynnu eich sylw oddi ar fywyd.

CV SWCI DELIC / GWYBODAETH I’R WASG

Swci Delic Bio Photo